Sul y Tadau: Y tad a'i ddau fab o Fangor sy'n caru snwcer
Mark, Rio a Jaiden Chung sy'n trafod eu cariad at snwcer ac at gefnogi ei gilydd ar Sul y Tadau.
By Anna George

Ac mae Rio a Jaiden hefyd yn hynod ddiolchgar i'w tad am fod yn athro snwcer iddyn nhw, ac am ei gefnogaeth bob dydd.
"Mae Dad wedi dysgu fi ers dwi'n cofio, a rhoi cyfleoedd i fi a Jaiden deithio'r wlad a mynd i ffwrdd i wledydd eraill.
"Dwi'n ddiolchgar iawn am hynna, heb sôn am fynd â fi i Llanfairpwll bedair gwaith yr wythnos. Dwi jest yn joio snwcer gymaint."
Ychwanegodd Jaiden: "Mae Dad yn athro da iawn, a dwi'n mwynhau chwarae pŵl efo'n gilydd adra hefyd."
Mae bwrdd snwcer ychydig yn rhy fawr i gartref Mark, ei wraig Persida a'r bechgyn ym Mangor felly bwrdd pŵl sydd ganddyn nhw'n y tŷ.
"'Dan ni yn chwarae pŵl efo'n gilydd lot ac mae o'n mynd yn eitha cystadleuaol erbyn y diwadd," eglurai Rio.
