Modd 'rhoi ffydd mewn cenhedlaeth iau' - awdur ifanc o'r Bala
Dywedodd Gruffydd ab Owain ei fod yn gobeithio y bydd pobl yn gweld bod modd "rhoi ffydd mewn cenhedlaeth iau" a'i bod hi'n "bosib torri cwys dy hun".
By Annell Dyfri

Ag yntau bellach yn astudio yn UCL yn Llundain, dywedodd fod rhoi'r gyfrol at ei gilydd "wedi bod yn beth braf".
"Mae'n beth eithaf hy' i wneud i roi fy hun allan 'na i sgwennu o oedran mor ifanc a dwi'n disgwyl i bobl ei ddarllen, disgwyl i bobl werthfawrogi o a'i drin o fel 'sgwennu byddai unrhyw un yn ei wneud a dim jyst 'sgwennu fel rhywun yn ei arddegau.
"Am ba bynnag reswm, tydi'r ffaith bo' fi'n ifanc yn gwneud y pethau 'ma ddim wir wedi croesi 'meddwl i.
"Dwi'n meddwl bo' fi jyst wedi mynd drwy broses eithaf normal gyda fy 'sgwennu, wedi cychwyn rhywbeth fy hun, wedyn ma' pobl wedi ei ddarllen o.
"Dwi'n gobeithio bydd pobl eraill yn gallu gweld hwn a gweld nid yn unig bod posib rhoi ffydd mewn cenhedlaeth iau ond bod hi'n bosib torri cwys dy hun a chychwyn rhywbeth o ddim byd ac wedyn bod hynny yn dwyn ffrwyth yn y pendraw.
"Bod posib cychwyn rhywbeth o scratch a bo' hwnna'n gallu tyfu i fod yn rhywbeth mwy ac yn rhywbeth sy'n mynd i roi lot o gyfleoedd gwerthfawr i ti yn y dyfodol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
