Hannah Parr: 'Symud i Langeitho os yn cael ceffyl neu ddolffin'
O ddysgu Cymraeg i sylwebu ar S4C yn y Sioe Fawr - Hannah Parr sy'n trafod ei bywyd a'i gyrfa.
By Angharad Rhys

Un o'r pethau sy' wedi ysbrydoli Hannah i fyw bywyd i'r eithaf yw colli ei ffrind gorau Sheila, sy' wedi cael effaith fawr arni, fel mae'n dweud: "Yn anffodus wnes i golli fy ffrind gorau.
"A phan dwi'n dweud ffrind gorau, dwi ddim jest yn meddwl am rywun ti'n agos i. O'n i'n siarad 'da Sheila pedair, bump gwaith y dydd.
"O'n i'n tecstio flat out am unrhyw beth, am pethau dwp, am pethau dwys. O'n i'n helpu'n gilydd 'da ceffylau, 'da'r plant.
"Fe gwympodd hi lawr y grisiau. Ac oedd hi mewn coma am bedwar diwrnod tan y dydd Sadwrn ac yn anffodus gorfod i'r peiriant gael ei ddiffodd.
"Oedd hi fel chwaer i fi a 42 oed oedd hi yn marw. Ac roedd hi'n llawn bywyd. Roedd 'da hi busnes ei hunan. Roedd hi'n gweithio'n rili galed yn y busnes.
"Mae bywyd yn fyr. Be' fi'n meddwl gyda hynny yw, os ydy chi isie neud rhywbeth a mae e o fewn gafael, gwnewch e.
"Hi oedd y rheswm i fi fyw yn yr eiliad."
