Canslo sioe Llannerch-y-medd yn sgil pryder am ffliw ceffylau
Pwyllgor Sioe Feffylau a Chŵn Llannerch-y-medd yw'r diweddaraf i ganslo'r digwyddiad oherwydd pryder am ledaeniad ffliw ceffylau.
By Liam Evans

Fis diwethaf fe gyhoeddodd Sioe Amaethyddol Pontargothi yn Sir Gaerfyrddin na fydd adran geffylau yn y sioe ddiwedd Mai oherwydd yr haint.
Yn ôl llefarydd ar ran y Sioe Frenhinol mi fydd yr adran geffylau yn parhau i gael ei chynnal fel y bwriadwyd.
"Ers 2019 mae Cymdeithas Amaethyddol y Sioe Frenhinol wedi gwneud hi'n orfodol i bob ceffyl sy'n dod i'r sioe gael ei frechu yn erbyn ffliw ceffylau," meddai.
"Mi fyddwn, wrth gwrs, yn parhau i fonitro'r sefyllfa yn agos a chefnogi dangoswyr sy'n paratoi at y sioe ym mis Gorffennaf."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
